Pennaeth

Pennaeth

Pennaeth

The Guardian

Reed

Cardiff, South Glamorgan

2 hours ago

No application

About

Mae Corff Llywodraethu Ysgo y Berllan Deg yn awyddus i benodi arweinydd profiadol ac ysbrydoledig yn Bennaeth newydd yr ysgol. Dyma gyfle unigryw a chyffrous i arwain ysgol Gymraeg gymunedol gref yn Nwyrain Caerdydd. Mae Ysgol Berllan Deg yn gwasanaethu cymunedau Cyncoed, Llanedeyrn, Penylan a’r Rhath. Mae’n ysgol hapus a chartrefol gyda naws ofalgar a chynhwysol ac mae iddi ethos Gymreig gref. Rydym yn ffodus i allu elwa o ardal allanol eang sy’n cynnwys tir gwyrdd, ein gardd (Y Berllan Fechan) , caeau chwarae ac ardal wyllt hefyd er mwyn i’n disgyblion allu manteisio o fo dyn yr awyr agored ym mhob tywydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd ysbrydoledig, yn ymarferydd rhagorol ac ynangerddol am ddatblygu Addysg Gymraeg yn y Brifddinas. Bydd ein Pennaeth newydd â’r gallu, yr angerdd a’r hygrededd i ysgogi ac ysbrydoli eraill a bydd yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth strategol â'r corff llywodraethu, y gymuned leol a'r holl randdeiliaid i ddarparu amgylchedd lle caiff staff a disgyblion yr ysgol eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.