Asesydd Budd Pennaf
Cyngor Sir Ynys Môn / Isle Of Anglesey County Council

Llangefni
•2 hours ago
•No application
About
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
O dan gyfarwyddyd y rheolwr llinell, darparu asesiadau safon uchel mewn perthynas â Threfniadau Diogelu Rhag Collid Rhyddid a rhoi cyngor ar yr holl ofynion statudol sy’n codi o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS).
Bod yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau diogelu angenrheidiol ar waith er mwyn amddiffyn hawliau dynol dinasyddion nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ynghylch ble byddant yn byw at ddibenion derbyn gofal a thriniaeth ac a allai gael eu hamddifadu o'u rhyddid.
Sicrhau bod trefniadau a wneir ar gyfer y dinasyddion hyn yn cydymffurfio â chanllawiau arferiongorau a gofynion cyfreithiol dan ddeddfwriaeth statudol.
Cynnal asesiadau Colli Rhyddid (DoL) yn y gymuned i’w hawdurdodi gan y Llys Gwarchod.
Cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant ar faterion DoLS
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Ann Postle
Rhif ffôn: 07816365064
Cyfeiriad e-bost: annpostle2@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100609




